Ymchwiliad i effaith yr argyfwng Covid-19 ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru
Ymateb Rhagarweiniol Hafal
1 Hanes Hafal
1.1 Mae Hafal yn elusen ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant sydd yn siarad ar ran pobl yng Nghymru ag afiechyd meddwl difrifol (gan gynnwys sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol a chyflyrau eraill gan gynnwys seicosis neu’n colli dirnadaeth), eu teuluoedd a gofalwyr, ac ar ran grŵp ehangach o bobl fregus yr ydym yn darparu gwasanaethau iddynt.
1.2 Mae Hafal yn cael ei lywodraethu gan ein Haelodau – tua 1,000 o bobl sydd yn ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr – sydd yn ethol ein Hymddiriedolwyr, sydd eu hunain yn bennaf yn ddefnyddwyr ac yn ofalwyr. Rydym yn rheoli gwasanaethau ym mhob un o’r 22 sir yng Nghymru a hefyd yn hwyluso 232 o gyfarfodydd cymorth i ofalwyr bob blwyddyn. Gyda’i gilydd, mae’r gwasanaethau yma yn cefnogi mwy na 6,000 o ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr bob blwyddyn. Mae llawer o’r 420 aelod o staff sydd gennym wedi profi iechyd meddwl eu hunain neu’n ofalwyr.
1.3 Mae Hafal wedi paratoi cynlluniau lleol a chenedlaethol er mwyn rheoli effaith y coronafeirws ar ein gwasanaethau, gan sicrhau bod modd cynnal cefnogaeth hanfodol tra hefyd yn cadw pawb mor ddiogel ag sydd yn bosib. Rydym yn cynnig Addewid Hafal – ein haddewid i gynnig cyswllt a chyfeillgarwch parhaus – ar draws Cymru, ac rydym wedi gweld cynnydd o 100% yn y nifer o bobl sydd wedi manteisio ar ein Haddewid o fewn y mis diwethaf. Darllenwch mwy am ymateb Hafal i’r pandemig yma.
2 Ymateb
2.1 Mae Hafal yn pryderi fod pobl ag afiechyd meddwl difrifol yn cael eu siomi ac yn cael eu gosod mewn risg. Rydym yn deall bod angen cwtogi rhai o’r gwasanaethau ond mae cleifion angen gwybod beth fydd yn ofynnol o ran y gwasanaeth sydd yn cael ei gynnig a sut y mae modd derbyn y gwasanaethau yma; a rhaid i’r gwasanaethau hynny weithio’n effeithiol. Rydym yn nodi fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyngor ar iechyd meddwl a lles cyffredinol pobl yn ystod y pandemig ond nid dyma’r hyn sydd yn cael ei drafod yn yr ymateb hwn.
2.2 Ar 8 Ebrill 2020, roedd Hafal wedi lansio arolwg er mwyn casglu adborth am effaith yr argyfwng coronafeirws ar iechyd meddwl pobl yng Nghymru, a’u profiadau o wasanaethau iechyd meddwl. Mae’r arolwg, a gwblhawyd gan fwy na 300 o bobl ar draws y wlad, yn datgelu fod iechyd meddwl 74% o’r sawl a ymatebodd wedi ei effeithio’n negatif gan yr argyfwng coronafeirws, gyda mwy na thraean (63%) yn methu cael apwyntiad i weld eu Meddyg Teulu yn y bythefnos flaenorol.
·
Roedd bron i
hanner o’r sawl a ymatebodd (46%) yn dweud nad oeddynt wedi
cael gwybod am yr hyn sydd yn digwydd o ran y gwasanaethau iechyd
meddwl yn eu hardal, ac roedd 37% wedi dweud fod gwasanaethau
wedi eu canslo o fewn y bythefnos ddiweddaraf. Roedd 14% wedi
profi trafferthion yn ceisio cysylltu â’u Timau Iechyd
Meddwl Cymunedol, ac nid oedd 44% wedi cael gwybod am yr hyn y
dylent wneud neu gyda phwy y dylid cysylltu os yw eu hiechyd meddwl
yn dirywio neu os ydynt yn profi argyfwng.
·
Roedd
ymatebion i’r arolwg yn cynnwys:
“Roeddwn wedi trefnu ‘apwyntiad brys’ (ym mis Ionawr) ar gyfer canol Mawrth, ond canslwyd hyn dros y ffôn, am gyfnod amhenodol, tair awr cyn yr oeddwn i fod yno.”
“Canslwyd fy adolygiad, roedd gen i lawer i’w drafod ond nid wyf yn gwybod pryd y bydd y cyfarfod yn cael ei ail-drefnu.”
“Mae ECT fy mhartner wedi ei ganslo yn sgil Covid-19. Mae wedi mynd yn isel iawn ei ysbryd ac ystyried hunanladdiad. Rwyf wedi siarad gyda’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol ond roeddynt wedi dweud nad oedd modd iddynt wneud dim byd yn sgil y coronafeirws?”
“Mae fy Nyrs Seiciatryddol Gymunedol wedi gadael. Nid wyf yn gwybod pwy yw fy nyrs newydd ac nid wyf wedi clywed gan rywun.”
Darllenwch mwy am yr
adroddiad yma.
2.3 Roedd Cadeirydd Hafal Mair Elliott wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd yn Ebrill yn mynegi ein pryderon, gan ddatgan:
“Fel Cadeirydd yr elusen iechyd meddwl Hafal, rwyf yn ysgrifennu atoch ar frys er mwyn mynegi fy mhryderon difrifol am ddiogelwch y cleifion iechyd meddwl mwyaf bregus a’u gofalwyr a’u teuluoedd yng Nghymru yn ystod yr argyfwng coronafeirws ac yn gofyn i chi am sicrwydd na fydd hyn effeithio ar eu diogelwch.
“Rydym yn gweld bod y gefnogaeth gan y Timau Iechyd Meddwl Cymunedol bron wedi diflannu’n llwyr; mae cleifion yn cael eu rhyddhau’n gynnar o unedau i gleifion mewnol tra bod unedau eraill yn cau gyda’r gwasanaethau yn cael eu diwygio i ffocysu ar welyau dementia. ”
“Rydym angen sicrwydd y bydd gwasanaethau yn cadw cleifion a’u teuluoedd a gofalwyr yn ddiogel yn ystod y cyfnod anodd hwn.”
Darllenwch mwy am yr ohebiaeth yma.
2.4 Rydym yn pryderi nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyfarwyddo neu wedi rhoi cyngor i’r Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol am y gwasanaeth gofynnol y dylid parhau ei ddarparu, ac nid yw wedi amlinellu unrhyw safonau cenedlaethol ar gyfer y gwasanaethau gofynnol, ac eithrio cydymffurfio gyda’r gyfraith (ac ni ddylai fod angen dweud hyn wrth gyrff cyhoeddus).
2.5 Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrthym y dylai cynlluniau wrth gefn sydd gan Fyrddau Iechyd Lleol gynnwys manylion o’r hyn a fydd yn cael ei ddarparu gan wasanaeth gofynnol. Nid ydym wedi gweld y cynlluniau yma ac nid yw ein cleifion wedi eu gweld ‘chwaith wrth gwrs. Rydym yn amau a yw’r cynlluniau yma yn amlinellu’r gwasanaethau gofynnol y dylid eu darparu: ein hargraff ni yw bod cynllunio lleol wedi ymwneud gydag atal a dirwyn gwasanaethau i ben ac nid ydynt wedi cynnwys unrhyw eglurder ynglŷn â pha wasanaethau sylfaenol fydd yn parhau.
3 Camau a fyddai’n helpu’n syth
·
Dylai Llywodraeth Cymru amlinellu safonau gofynnol am
y gwasanaethau y dylid parhau eu darparu i bobl ag afiechyd meddwl
difrifol yn ystod y pandemig
·
Dylai Byrddau Iechyd Lleol gyhoeddi eu cynlluniau
wrth gefn nawr a chynnig tystiolaeth i bobl ag afiechyd
meddwl difrifol am y gwasanaethau sydd ar gael a sut i gael
mynediad atynt
· Dylid adolygu safonau cenedlaethol ac argaeledd lleol y gwasanaethau yn gyson – a’u newid yn ôl gofynion y pandemig ar y GIG ac eraill – a dylid rhoi cyngor priodol i bobl ag afiechyd meddwl difrifol
4 Cyswllt
Pennaeth Cyfathrebu
Prif Swyddfa Hafal
Uned B3, Parc Technoleg Lakeside
Ffordd y Ffenics, Llansamlet
Abertawe SA7 9FE